El Lissitzky
El Lissitzky | |
---|---|
Ganwyd | 10 Tachwedd 1890 (yn y Calendr Iwliaidd) Pochinok |
Bu farw | 30 Rhagfyr 1941 Moscfa |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, pensaer, dylunydd graffig, ffotograffydd, dylunydd math, athro, cynllunydd, teipograffydd, drafftsmon, artist |
Arddull | Swprematiaeth, Adeileddiaeth |
Mudiad | Adeileddiaeth, Swprematiaeth |
Priod | Sophie Lissitzky-Küppers |
Plant | Jen Lissitzky |
Roedd Lazar Markovich Lissitzky (Rwsieg: Ла́зарь Ма́ркович Лиси́цкий), (23 Tachwedd 1890 – 30 Rhagfyr 1941), El Lissitzky (Rwsieg: Эль Лиси́цкий) yn ffotograffydd, teipograffwr, dylunydd a phensaer Rwsiaidd ac yn ffigwr pwysig mewn celfyddyd avant-garde Rwsia.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Fe ddatblygodd yr arddull Suprematism gyda Kazimir Malevich ac fe ddyluniodd nifer fawr o bosteri propaganda ac arddangosfeydd ar gyfer yr Undeb Sofietaidd.
Mae Suprematism yn symudiad celf, o ddechrau’r 20g oedd yn canolbwyntio ar ffurfiau geometrig sylfaenol, fel cylchoedd, sgwariau a llinellau, wedi'u paentio mewn ystod gyfyngedig o liwiau. Fe'i sefydlwyd gan Kazimir Malevich yn Rwsia, tua 1913, ac chynhaliwyd arddangosfa yn St. Petersburg ym 1915, lle dangoswyd gwaith Malevich ac 13 o artistiaid eraill gyda gwaith mewn arddull debyg. Mae'r term Suprematism yn cyfeirio at gelfyddyd haniaethol yn seiliedig ar "oruchafiaeth deimlad artiffisial pur" yn hytrach nag ar ddarluniau gweledol o wrthrychau.
Roedd gwaith El Lissitsky yn ddylanwad mawr ar y Bauhaus a'r mudiad celfyddydol lluniadaethol (constructivist) a dylunio graffig yr 20g yn gyffredinol. Ymhlith enwau mawr a fu'n cyd-weithio oedd yr arlunwyr Marc Chagall, Kurt Schwitters, Wassily Kandinsky, László Moholy-Nagy, Theo van Doesburg, Alexander Rodchenko a'r bardd Vladimir Mayakovsky.
Fe gredai Lissitzky fod celfyddyd yn gallu newid a gwella bywyd, fel y gyhoeddodd yn "das zielbewußte Schaffen". (creu pwrpasol) [1].
Hanes
[golygu | golygu cod]O dras Iddewig, fe ddechreuodd ei yrfa yn darlunio llyfrau plant Iddew-Almaeneg (Yidish), fel rhan o ymdrechion i hyrwyddo diwylliant Iddewig yn Rwsia, gwlad oedd wedi dioddef hanes o wrth-Semitiaeth ond oedd newydd gael gwared â chyfreithiau yn erbyn Iddewon.
Fe ddechreuodd Lissitzky ddysgu fel athro celf yn 15 oed ac fe barodd yn athro hyd ei oes, yn dysgu mewn amryw o ysgolion a cholegau celf a swyddi. Gweithiodd gyda Malevich yn arwain y grŵp celfyddydol suprematist UNOVIS, a datblygodd steil suprematist ei hun, sef Proun.
Yn dilyn Chwyldro Rwsia cymerodd swydd yn 1921 fel llysgennad diwylliannol i Weriniaeth Weimar, Yr Almaen, yn gweithio gyda'r mudiadau Bauhaus a De Stijl.
Dychwelodd i'r Undeb Sofietaidd a fu'n arloeswr ym maes dylunio graffig yn torri tiroedd newydd mewn teipograffiaeth, photomontage a dylunio arddangosfeydd gan ddenu edmygedd mawr trwy'r byd celf rhyngwladol. Hyd yn oed ar ei wely angau yn 1941 fe gynlluniodd boster popaganda Sofietaidd yn annog gweithwyr i adeiladu rhagor o danciau yn y rhyfel yn erbyn Natsïaeth.[2] '
Er i lywodraeth Stalin wahardd gwaith haniaethol ac hyd yn oed erlid llawer o'r arlunwyr haniaethol fe lwyddodd El Lissitzky i gadw ar ochr iawn y gyfundrefn [3].
Y Lletem Goch
[golygu | golygu cod]Un o bosteri enwocaf Lissitzky yw Curwch y Gwynion gyda'r Lletem Goch (Клином красным бей белых!), 1919, poster propaganda comiwnyddol sydd yn defnyddio elfennau a syniadaeth suprematism. Mae'r cynllun yn cyfleu'i neges yn bennaf gyda ffurfiau haniaethol yn hytrach na geiriau gan roedd lefel uchel o anllythrennedd ymhlith pobl yr Undeb Sofietaidd ar y pryd.
Yn y poster mae'r siâp miniog coch yn cynrychioli'r lluoedd 'cochion' Bolsieficaidd a oedd yn ymladd yn erbyn y lluoedd 'gwynion' brenhinol yn Rhyfel Cartref Rwsia. Mae'r siâp coch caled yn torri mewn a thyllu trwy'r siâp gwyn crwn i gyfleu ymosodiad a buddugoliaeth y cochion.[4]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Teyrnged i Lenin, 1920.
-
Dyluniad, 1922
-
Proun, c.1922, MOMA
-
Kestnermappe Proun, Rob. Levnis and Chapman GmbH Hannover #5, 1923
-
Ängstliche Litho, 1923
-
Proun, 1924, M.T. Abraham Foundation
Nodiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ A Dictionary of Architecture and Landscape Architecture (Oxford Paperback Reference), James Stevens Curl (May 1, 2007)
- ↑ Self-Portrait: Constructor. Victoria & Albert Museum, 2013. Retrieved 8 July 2013.
- ↑ Tupitsyn
- ↑ George Heard Hamilton. Painting and sculpture in Europe, 1880–1940. p. 317
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Curl, James Stevens (2006). A Dictionary of Architecture and Landscape Architecture (Paperback) (arg. Second). Oxford University Press. t. 880 pages. ISBN 0-19-860678-8.
- Albrecht, Wilma Ruth: (1993). EL - wie Lissitzky. Das Künstlerporträt. Liberal, 35 (1993) 4, pp. 50-60. ISSN 0459-1992.CS1 maint: extra punctuation (link)
- Balandin, S. N. (1968). "Arkhitekturnaya teoriya El Lisitskogo (Архитектурная теория Эль Лисицкого)" (yn Russian). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-10. Cyrchwyd 2008-10-01.CS1 maint: unrecognized language (link)
- Burgos, Francisco; Garrido, Gines (2004). El Lissitzky. Wolkenbugel 1924-1925. Absent Architecture (Rueda, Spain). ISBN 978-84-7207-158-2.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- Curl, James Stevens (2006). A Dictionary of Architecture and Landscape Architecture (Paperback) (arg. Second). Oxford University Press. t. 880 pages. ISBN 0-19-860678-8.
- Ilyicheva, Anna (2008). "Avangard na samoteke (Авангард "на cамотеке")" (yn Russian). lenta.ru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-23. Cyrchwyd 2014-07-09.CS1 maint: unrecognized language (link)
- Glazova, Anna (2003). "El Lissitzky in Weimar Germany". Speaking in Tongues. The Magazine of Literary Tran slation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-30. Cyrchwyd 2008-10-01.
- Lissizky, El; Schwitters, Kurt (1924). "Merz (magazine) no. 8-9". Cyrchwyd 2008-10-01.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- Lissitzky-Kuppers, Sophie (1980). El Lissitzky, life, letters, texts. Thames and Hudson. ISBN 0-500-23090-0.
- Mallgrave, Harry Francis (2005). Modern Architectural Theory: A Historical Survey, 1673-1968. Cambridge. ISBN 0-521-79306-8.
- Margolin, Victor (1997). The struggle for utopia: Rodchenko, Lissitzky, Moholy-Nagy : 1917–1946. University of Chicago Press. ISBN 0-226-50516-2.
- Margolin, Victor (2000). "El Lissitzky's Had Gadya, 1919" (PDF). Yeshiva University, New York. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-10-03. Cyrchwyd 2008-10-02.
- Mayakovsky, Vladimir; El Lissitzky (2000). For the Voice (Dlia golosa). The MIT Press. ISBN 0-262-13377-6.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- Perloff, Nancy (2005). "Design by El Lissitzky". Getty Research Institute. Cyrchwyd 2008-10-01.
- Perloff, Nancy; Reed, Brian (2003). Situating El Lissitzky: Vitebsk, Berlin, Moscow. Getty Research Institute. ISBN 0-89236-677-X.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- Spencer, Herbert; Poynor, Rick (2004). Pioneers of modern typography. MIT Press. ISBN 978-0-262-69303-5.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- Shatskikh, Alexandra (2007). Vitebsk: The Life of Art. Yale University Press. ISBN 978-0-300-10108-9.
- Tupitsyn, Margarita (1999). El Lissitzky: Beyond the Abstract Cabinet. Yale University Press. ISBN 978-0-300-08170-1.
- El Lissitzky. Wolkenbügel 1924-1925. Publisher= Editorial Rueda, Madrid, 2005 ISBN 84-7207-158-8
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Ibiblio.org – Delweddau o'i waith mwyaf adnabyddus
- MoMA - Flash- arweiniad digidol i USSR im bau aDlia Golossa
- The Roland Collection of Films & Videos on Art – Rhaglen ddogfen 88-muned El Lissitzky, gan Leo Lorez
- A Factory Discography Archifwyd 2012-07-10 yn archive.today – Catalog yn dangos cloriau Factory Records gan Dennis Remmer.
- Testun llawn NASCI (Merz No. 8/9, Hanover, April-July 1924).
- El Lissitzky letters and photographs, 1911-1941. Llyfrgell Ymchwil yn y Getty Research Institute. Los Angeles, Califfornia.
- Van Abbemuseum Eindhoven casgliad o ddelweddau El Lissizky
- MT Abraham Foundation El Lissizky yn y casglaid MT Abraham
- Valeri Shishanov. VITEBSK’ BUDETLANE Archifwyd 2011-09-01 yn y Peiriant Wayback
Rhestr catalog arwerthiant Swann Galleries yn cynnwys gwaith El Lissitzky.